Yn bresennol
Categori
|
Enwau
|
Aelodau’r
Cynulliad:
|
Lynne Neagle AC
(Cadeirydd)
Dawn Bowden
AC
Hefin David
AC
Suzy Davies
AC
Janet
Finch-Saunders AC
Siân
Gwenllian AC
Vikki Howells AC
(yn lle Jack Sargeant AC)
|
Tystion:
|
Julie James AC,
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Karen Cornish,
Llywodraeth Cymru
Emma Gammon,
Llywodraeth Cymru
|
Staff y
Pwyllgor:
|
Llinos Madeley
(Clerc)
Gareth Rogers
(Ail Glerc)
Sarah Bartlett
(Dirprwy Glerc)
Michael Dauncey
(Ymchwilydd)
Sian Hughes
(Ymchwilydd)
Sian Thomas
(Ymchwilydd)
Lisa Salkeld
(Cynghorydd Cyfreithiol)
Samiwel Davies
(Cynghorydd Cyfreithiol)
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack
Sargeant AC; dirprwyodd Vikki Howells AC ar ei ran.
</AI1>
<AI2>
2
Bil Plant
(Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth
11
2.1
Craffodd y Pwyllgor ar waith y Dirprwy Weinidog.
2.2
Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu nodyn ar y materion a
ganlyn:
- Gwybodaeth am y cysylltiadau â rhieni, gan gynnwys
manylion am y negeseuon a ddefnyddiwyd mewn perthynas â
rhianta, cyn y cyswllt cyn-ysgol yn 3.5 oed yn Rhaglen Plant Iach
Cymru;
- Nodyn ar
yr ymarfer mapio sy'n cael ei gynnal mewn perthynas ag argaeledd
cymorth blynyddoedd cynnar i rieni, gan gynnwys manylion y broses
fapio, amserlenni, a sut y caiff y canfyddiadau eu
datblygu;
- Y
wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru ar warediadau y tu
allan i'r llys, gan gynnwys costau amcangyfrifedig;
- Ffigurau
sy'n ymwneud â pha mor aml y datgelir gwybodaeth 'heb
euogfarn, a pha mor aml y disgwylir iddi gael ei
datgelu;
- Nodyn yn
rhoi rhagor o fanylion am y trafodaethau â'r Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd (DBS) y cyfeiriodd Llywodraeth Cymru atynt mewn
perthynas â'r Bil a datgelu gwybodaeth 'heb euogfarn;
ac
- Ymateb
ysgrifenedig i'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd isod:
-
- Sut y
bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Bil hwn yn amddiffyn y
plant ieuengaf na allant leisio eu profiadau?
- Pa
asesiad a wnaed o ran a fydd y Bil hwn yn effeithio yn anghymesur
ar fenywod, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed, o ystyried mai
menywod yw'r prif roddwyr gofal mewn llawer o achosion?
- Mae
Asesiad Effaith Cydraddoldeb y Bil yn nodi: “Mae rhywfaint o
dystiolaeth gyfyngedig y gall plant o rai grwpiau ethnig gael eu
cosbi’n gorfforol yn amlach oherwydd tarddiad ethnig neu
ddiwylliannol eu rhieni", “Mae rhieni o leiafrifoedd ethnig
yn wynebu nifer o rwystrau gwahanol i fanteisio ar wasanaethau, gan
gynnwys gwahaniaethu, rhwystrau iaith a diwylliannol a diffyg
ymwybyddiaeth o wasanaethau a sut i gael gafael arnynt”, a
bod teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr “yn amharod defnyddio
gwasanaethau oherwydd ofn stigma a rhagfarn, diffyg ymddiriedaeth
mewn darparwyr gwasanaethau, a sgiliau llythrennedd cyfyngedig o
bosibl”. A all Llywodraeth Cymru amlinellu pa mor arwyddocaol
yw'r mater hwn yn ei barn hi, gan roi enghreifftiau ymarferol o sut
y bydd yn lliniaru'r effeithiau posibl hyn?
</AI2>
<AI3>
3
Papurau i’w
nodi
3.1
Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Mewn
perthynas â phapur i'w nodi 1, roedd Suzy Davies AC am nodi
anhawster dadgyfuno achosion o gosb resymol fel achosion unigol
oddi wrth achosion sy'n ymwneud â phatrymau ymddygiad
ehangach.
</AI3>
<AI4>
</AI6>
<AI7>
4
Cynnig o dan Reol
Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod
4.1
Derbyniwyd y cynnig.
</AI7>
<AI8>
5
Bil Plant
(Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – Trafod y
dystiolaeth
5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y
sesiwn.
</AI8>
<AI9>
6
Ymchwiliad i
Gyllido Ysgolion - Trafod yr adroddiad drafft
6.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad drafft
ei drafod eto yn y cyfarfod ar 26 Mehefin.
</AI9>
<AI10>
7
Trafod
blaenraglen waith y Pwyllgor
7.1
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunodd yr Aelodau ar y
canlynol ar gyfer tymor yr hydref:
·
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Addysg ar y cwricwlwm
newydd fel rhan o waith craffu parhaus y Pwyllgor ar ddiwygio'r
cwricwlwm;
·
Sesiwn unigol ar ofal plant ac addysg blynyddoedd
cynnar, i gynnwys gwaith dilynol ar Dechrau'n Deg: allgymorth a
materion sy'n codi wrth graffu ar y Bil Cyllido Gofal
Plant;
·
Ymchwiliad byr i Hawliau Plant yng Nghymru
;
·
Craffu ar y Gyllideb Ddrafft;
·
Ymchwiliad i Addysg heblaw yn yr ysgol neu mewn
Unedau Atgyfeirio Disgyblion;
·
Sesiwn unigol ar wella ysgolion a chodi safonau;
a
·
Gwaith dilynol parhaus ar ymrwymiadau presennol a
chraffu ar adroddiadau blynyddol.
7.2 Nododd y
Pwyllgor y wybodaeth sydd ar gael am y rhaglen ddeddfwriaethol, gan
gynnwys yr angen a ragwelir i gwblhau trafodion Cyfnod 2 o Fil
Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) os yw'n pasio
Cyfnod 1.
</AI10>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>